Swyddog Datblygu Gogledd Cymru

Public/Government jobs >> Other

Negotiable

Permanent

Description

Swyddog Datblygu Gogledd Cymru
£19.19 yr awr, isafswm 22 awr yr wythnos (£36922 FTE - pro rata £21954).
Parhaol. Dyddiad cau 19 Ionawr 2025 (Ganol Nos)
Un Llais Cymru yw’r corff cynrychioliadol cenedlaethol ar gyfer cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, ac mae’n cynnig llais cryf i gynrychioli buddiannau cynghorau cymuned a thref ar lefel genedlaethol. Mae’n darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i gefnogi eu gwaith, gan gynnwys gwasanaethau gwybodaeth a chynghori, cymorth gyda pholisi a gweithdrefnau, gwasanaethau hyfforddiant a datblygu, gwasanaethau ymgynghorol, a chynrychioli a hyrwyddo’r sector.
Mae Un Llais Cymru yn chwilio am unigolyn deinamig a rhagweithiol i ymuno â’n tîm ac ymgymryd â rôl Swyddog Datblygu Gogledd Cymru.
Mwy am y Rôl
Byddwch yn chwarae rôl allweddol yn datblygu a chynnal perthynas waith agos ac effeithiol a chefnogi a chryfhau ein haelod gynghorau. Bydd eich cyfrifoldebau yn cynnwys:
* Bod yn brif gyswllt ar gyfer aelod gynghorau a darparu cyngor ac arweiniad arbenigol.
* Trefnu a rheoli cyfarfodydd Pwyllgorau Ardal, gan gynnwys siaradwyr gwadd a chymryd cofnodion.
* Denu aelodau newydd trwy weithio gyda chynghorau.
* Llunio e-fwletinau misol diddorol a llawn gwybodaeth.
Beth Rydym yn Chwilio Amdano
I lwyddo yn y rôl hon, byddwch angen:
* Dealltwriaeth gadarn o lywodraeth leol yng Nghymru, a chynghorau cymuned a thref yn enwedig.
* Sgiliau rhyngbersonol eithriadol, ac mae’r gallu i ddefnyddio’r Gymraeg yn rhugl yn hanfodol.
* Y gallu i weithio’n annibynnol (byddwch yn gweithio o’ch cartref) ac i fod yn rhan annatod o dîm cydweithredol.
* Sgiliau TGCh cryf a’r gallu i sylwi ar fanylion.
Byddai cymhwyster yn gysylltiedig â’r sector yn fonws, ac er bod yr oriau’n hyblyg, bydd angen gweithio gyda’r nos o bryd i’w gilydd ac ar ambell ddydd Sadwrn.
Pam Ymuno â Ni?
Mae hon yn fwy na swydd — mae’n gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol trwy gefnogi cynghorau lleol i gyflawni dros eu cymunedau a chreu gwell Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
I gael mwy o fanylion am y swydd, gan gynnwys y disgrifiad swydd, manyleb berson a ffurflen gais, gwasgwch ar y ddolen ganlynol.
SYLWER: NI DDERBYNNIR DOGFENNAU CV
  • 1
  • Negotiable
  • None
  • None
  • CV-343181
  • Permanent
  • 4

How to Apply: Please click here to create a free Pure-jobs.com account and post your resume. Only logged in job seekers can apply for a job.

Find us at:

Never provide bank account, credit card details or any other financial information, or make any form of payment, when applying for a job. If you are ever asked to do this by a recruiter on Pure Jobs please click the Report button or contact us with the advertiser's company name and the title of the job vacancy. You should not send any money to anyone. A genuine employer with a job offer would never ask you to do this.

Report this job
x

Report a job

If you're concerned about a job advert, let us know and our quality team will investigate.

Your name(*)
Invalid Input

Your email address(*)
Invalid Input

Please select you reason(*)

Additional information(*)
Invalid Input

Invalid Input

Get new jobs for this search by email.

Also get an email with jobs recommended just for me.

Create Alert



Subscribe to updates from our blog

PLEASE NOTE! WE USE COOKIES AND SIMILAR TECHNOLOGIES FOR THE BEST USER EXPERIENCES

However, by continuing to use the site without changing settings, you are agreeing to our use of cookies.